Penboyr School
Ysgol Penboyr

Cystadlaethau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig

Mae Ysgol Penboyr wedi bod yn cystadlu yng nghystadlaethau Menter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig dros y saith mlynedd ddiwethaf. Rydyn ni wedi ennill dros £4700, gan ennill y wobr gyntaf deirgwaith. Ynghylch ein prosiect diwethaf  'William a Mary ar y We', derbyniom yr anrhydedd uchaf trwy ennill £1000 a tharian am y gwaith gorau gan ysgol gynradd yng Nghymru.

Dyma’r tro cyntaf i Ysgol Penboyr ennill y darian fawreddog hon. Mae’r disgyblion a’r staff uwch ben eu digon i dderbyn y gydnabyddiaeth o ganlyniad i waith caled y disgyblion yn llunio adroddiad hanesyddol addas i blant am ddatblygiad y Beibl Cymraeg o 1588. 

Yn ogystal â’r holl waith ar draws y cwricwlwm yn yr ysgol, ymchwiliwyd i’r prosiect hwn trwy ymweld â Thŷ Mawr, Wybrnant, cartref William Morgan, dilyn bywyd Mari Jones trwy ymweld â man ei geni yn Llanfihangel -y-Pennant ac Eglwys Sant Mihangel lle cafodd hi ei bedyddio, ymweld â Bryn-crug, ei chartref priodasol a’i bedd yng Nghapel Bethlehem, a dilyn ei llwybr i brynu tri Beibl (mewn bws mini) gan orffen yng nganolfan newydd agor Byd Mari Jones lle mae arddangosfa fodern o’i bywyd ar fyrddau rhyngweithiol addas i blant.

Canlyniad yr ymchwil hwn oedd creu gwefan gan blant ar gyfer plant! Gallwch weld ein gwefan sydd wedi ennill ar https://penboyr.j2bloggy.com/Tyfu-a-Ffynnu/

Gellir gweld dau o’n prosiectau sy’n dangos gwaith y disgyblion,  Merched Beca a Darllen! Darllen! Darllen! ar ein tudalennau Gwaith Disgyblion ar J2webby.   Cliciwch ar:-  J2Webby –bwydlen Gwaith Disgyblion  ar y chwith  > Prosiectau Treftadaeth

Rydyn ni wedi cynnwys adroddiadau o’r gorolwg ar y prosiectau a gyflwynwyd gennym a hefyd crynodeb o’n gwobrau, wedi ei ysgrifennu gan Fenter Ysgolion y Dreftadaeth Gymreig a’r arian a enillwyd am bob gwobr! Gellir gweld y rhain ar yr is-fwydlenni isod. 

What is the Welsh Heritage Schools Initiative?

Heritage

Please read the excerpt below taken from the Welsh Heritage Schools Initiative website:-

“ Each year the Welsh Heritage Schools Initiative Committee invites all schools in Wales to enter heritage projects in a nationwide competition. The word "heritage" is interpreted in the widest sense, to include people and their social history, religion, traditions and culture; the world of work, agriculture, industry, finance, commerce, science, technology, arts and sport.

These projects can be part of the usual curriculum-focused work carried out as part of the timetable, or they can reflect work done by the school to commemorate a local event, person or building.

The projects require research, collection of materials, analysis and evaluation and communication skills. They may be presented as exhibitions, performances, restorations and other forms of contribution to heritage, or as records in print or electronic form.

Schools are encouraged to involve their community and people of different generations in their projects and to disseminate their findings.

All schools entering the competition are visited by judges who assess the project, taking into account the appropriate level of literacy, numeracy and information technology skills.

At an Awards Ceremony prizes are awarded for the best projects in each category: infant, primary and secondary. The prizes are presented to the winners by the sponsors who donated them. The Welsh Heritage Schools Initiative Shields (donated by the National Museums and Galleries of Wales) are presented to the best overall primary and secondary entries. The ceremony is held at a different location in Wales each year”.

Penboyr 150 - Dewch Am Dro

Whsi Logo

Menter y Dreftadaeth Gymreig 2017

Ysgol Penboyr

Whsi Logo

Testun prosiect Cyfnod Sylfaen Ysgol Penboyr eleni yw:

Penboyr 150 - Dewch Am Dro

http://penboyr.j2bloggy.com/Penboyr-150-Dewch-Am-Dro/ 

Dechreuad y prosiect oedd dathlu canmlwyddiant a hanner yr ysgol yn 2016. Agorwyd yr ysgol ar Orffennaf 3ydd, 1866 gyda 30 o blant ar y gofrestr. Fel rhan o’r dathliadau, cynhaliom wasanaeth arbennig yn Eglwys St. Barnabas ar Fehefin 23ain i’r gymuned gyfan a’r siaradwr gwadd oedd yr Esgob Wyn Evans. Cymerodd holl ddisgyblion yr ysgol ran yn y gwasanaeth. Trefnom barti ar yr iard i’r ysgol gyfan ar Orffennaf 3ydd, ar yr union ddiwrnod agorodd yr ysgol. I barhau â’r dathlu, cynhaliom ddiwrnod agored yn yr ysgol ar ddydd Sadwrn, Medi 24ain a Chymanfa Fodern ar y nos Sul, 25ain o Fedi. Yn dilyn hynny, ar Fedi’r 29ain , daeth yr Ysgrifennydd Addysg, Mrs Kirsty Williams hefyd ar ymweliad â’r ysgol.

Yn dilyn y dathlu, penderfynom astudio hanes yr ysgol ers y cychwyn cyntaf a gweld sut mae ysgolion wedi datblygu ers 1866. Man cychwyn yr ymchwilio oedd ein hymweliad â Amgueddfa Abergwili yng Nghaerfyrddin. Fe wnaethom wisgo lan fel plant slawer dydd a chael gwers yn yr hen ystafell ddosbarth gan Mr Steffan Griffiths, pennaeth presennol Ysgol Nantgaredig. Roedd yn brofiad bythgofiadwy i fynd nôl mewn hanes a gweld mor wahanol oedd addysg bryd hynny. Buom hefyd ar ymweliadau â’r Amgueddfa Plentyndod yn Llangeler i astudio hen deganau a gweld hen ddosbarth oes Fictoria, ac i Eglwys y Carcharorion Rhyfel yn Henllan i ddarganfod ffeithiau am efaciwis a ddaeth i’r ysgol yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn olaf, aethom ar ymweliad â Amgueddfa Wlân Drefach Felindre i weld ble roedd plant yn gweithio yn y pentref cyn i’r ysgol agor a dysgu am olchi dillad slawer dydd. 

Yn ogystal â’r ymweliadau, rydym wedi bod yn astudio hanes yr ysgol yn y dosbarthiadau. Mae dosbarth 1 wedi creu hen ddosbarth slawer dydd gyda hen arteffactau fel cornel chwarae rôl a dosbarth 2 wedi creu arddangosfa o waith y disgyblion a’r ymweliadau. Maent wedi cael profiadau eang trawsgwricwlaidd wrth astudio hanes yr ysgol, hanes O.M. Edwards, astudio llyfr log, hen ffotograffau ac arteffactau, stori Elin Angharad, gwaith mesur a rhifo Mathemateg, dylunio logo newydd i’r ysgol, sgriptio ar gyfer sgrîn werdd, cyfweld cyn ddisgyblion o wahanol gyfnodau a.y.b.

Testun cystadlaethau Cyfnod Sylfaen yn Eisteddfod yr ysgol 2017 oedd addysg slawer dydd. Buom yn llefaru darn ‘Nawr Tedi’ a chanu cân ‘Llythrennau a Thablau’ yn ein timoedd. Darn y côr i’r disgyblion i gyd oedd Anthem Siarter Iaith newydd yr ysgol a gyfansoddwyd fel rhan o’r dathlu gan Anni Llŷn a disgyblion blwyddyn 4. 

Daeth yr artist preswyl, Rhiannon Roberts, i’r ysgol i greu murlun yn y neuadd a pheintio yr iard fach ar gyfer y dathlu gyda disgyblion yr ysgol i gyd. Hefyd, mae disgyblion yr ysgol gyfan wedi creu un mosaic newydd gyda Mrs Glenys Williams, un o’n gweinyddesau, a pheintiad o’r Creu i ddathlu 150 gyda’r artist preswyl, Meinir Mathias.

Yn dilyn ein gwaith ymchwil, fe wnaethom greu sioe wreiddiol ar hanes yr ysgol sef Penboyr ‘Penboyr Un Pump Sero Dewch am Dro’. Mrs Wendy Organ, un o’n gweinyddesau a’r disgyblion oedd yn gyfrifol am sgriptio a dewis ac addasu caneuon. Ar nos Fawrth, Mawrth 21ain fe wnaethom berfformio’r sioe i’r rhieni a ffrindiau’r ysgol. Roedd y neuadd yn orlawn a phawb wedi cael gwledd i weld y disgyblion yn perfformio mor hyderus a phawb yn gwybod eu gwaith. Rydym wedi anfon DVD o’n sioe i dair ysgol ar draws Cymru, Ysgol Pontrobert ac Ysgol Wirfoddol Llansantffraid ym Mhowys ac Ysgol Eglwysig Llandegai yng Ngwynedd.

Rydym wedi buddsoddi mewn gorsaf radio ar gyfer darlledu ar y we i hyrwyddo gwaith yr ysgol yn y gymuned lleol ac yn ehangach. Creuom ein rhaglen gyntaf yn y Cyfnod Sylfaen yn cynnwys cyfweliadau, caneuon a rhannau o’n sioe.  Darlledwyd y rhaglen ar www.cymru.fm  Mae’r rhaglen ar gael i wrando eto ar wefan Cymru FM neu ar wefan yr ysgol.  

Yn dilyn ein hymweliadau a’n gwaith ymchwil, fe wnaethom gasglu’r tystiolaeth i greu gwefan o fewn safwe yr ysgol. Mae’n lliwgar, yn llawn lluniau ac yn rhwydd i’w defnyddio i ddangos ein gwaith i’r rhieni, y gymuned a’r byd ehangach ac yn crynhoi y prosiect cyfan. 

Ar ôl astudio’r gorffennol, rydym wedi bod yn ystyried sut bydd ysgolion yn datblygu yn y dyfodol a sut rai fydd yr athrawon! Mae’r disgyblion wedi creu dosbarth y dyfodol wrth ochr yr hen ysgol slawer dydd er mwyn cymharu bywyd ysgol o un cyfnod i’r llall. 

Trwy’r prosiect trawsgwricwlaidd hwn, rydym wedi dysgu llawer am fywyd yr ysgol ers y cychwyn cyntaf yn 1866.Trwy fynd ar ymweliadau, cyfweld cyn ddisgyblion, astudio hen ddogfennau, arteffactau a lluniau, creu sioe wreiddiol, mae’r profiadau wedi dod â’r hanes yn fyw i ni. 

Mae’r dathliadau i gofio 150 Ysgol Penboyr wedi rhoi cyfle i ni ddathlu mewn steil ein hanes unigryw. Nid oes llawer o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin yn 150 oed! Trwy greu ein gwefan, DVD o’r Sioe, ffeiliau’r prosiect a rhaglen radio, gobeithiwn gadw’r  hanes yn fyw a’r iaith Gymraeg am genedlaethau i ddod. 

Croesi'r Tonnau - Nel Fach Y Bwcs

 

Whsi Logo

Menter y Dreftadaeth Gymreig 2016

Ysgol Penboyr

Enillwyr £750

Whsi Logo

Testun ein prosiect yn nosbarth 4 eleni yw:

'Croesi'r Tonnau' - Nel Fach Y Bwcs

http://penboyr.j2bloggy.com/Nel-Fach-Y-Bwcs/

Dechreuad i’r gwaith oedd cymryd rhan mewn seremoni ym mis Gorffennaf 2015 i ddadorchuddio plac treftadaeth glas ar dŷ o’r enw ‘Camwy’, yn ein pentref, cartref Ellen Davies neu Nel Fach y Bwcs fel y gelwid hi, a’i thad, pan ddychwelont o Batagonia yn 1901.

Dadorchuddiwyd y plac gan deulu Nel. Buom yn canu cân am Batagonia a llefaru cerdd ‘Taith Anturus’ gan James Culf, a enillodd gadair ein heisteddfod Ysgol yn 2015. Arweiniodd hyn at ofyn y cwestiwn, pwy oedd Nel Fach y Bwcs a pham fod ei hanes yn bwysig i ni yn yr ardal? Wrth i ni ymchwilio ymhellach, roedd y pwnc yn dod yn fwy diddorol, ac yn bwysig iawn o ran hanes ein pentref ni. Cyn mynd ymlaen i astudio hanes Nel ei hunan, ymchwiliom i hanes pam wnaeth pobl ymfudo i Batagonia yn 1865 ar y Mimosa. Daeth Cwmni Arad Goch i’r ysgol i berfformio drama ’Hola’ ar hanes y mewnfudwyr i Batagonia. Cymerom ran mewn gweithdy gyda’r actorion yn dilyn y perfformiad.

Ar Chwefror 5ed, 2016 aeth rai o ddisgyblion blwyddyn 6, sy’n trosglwyddo i Ysgol Emlyn, a rhai o flwyddyn 5, ar ymweliad â dociau Lerpwl i weld cofeb i gofio yr ymfudwyr cyntaf a hwyliodd ar y Mimosa yn 1865. Fe wnaethom gwrdd â Dr. Arthur Thomas, un o aelodau Cymdeithas Cymry Cymraeg Lerpwl, ac adrodd hanes dadorchuddio’r gofeb. Fe wnaeth ein tywys o amgylch y dociau. Buom yn gweld model o’r Mimosa yn Amgueddfa Forwrol.  Dr. Thomas oedd wedi cludo’r model o Gernyw i Lerpwl.

Er mwyn clywed hanes Nel o lygad y ffynnon, fe wnaethom wahodd Eiry Palfrey, wyres Nel i siarad â ni. Dangosodd bwer pwynt o hanes Nel ym Mhatagonia ac yn Drefach Felindre. Soniodd am ei phersonoliaeth a hanesion diddorol amdani, yn enwedig hanes y jwg, cwilt a’r poncho.

Ar ôl gweld DVD o ffilm ‘Poncho Mamgu’ a gyfarwyddwyd gan Eiry Palfrey a’i theulu, fe wnaethom greu poncho i’w ddefnyddio ar gyfer ffilm sgrin werdd. Blwyddyn 6 oedd yn gyfrifol am sgriptio a chyfarwyddo. Buom yn defnyddio ein sgiliau digidol i ffilmio a golygu’r ffilm fer. Rydym yn ddiolchgar i Mrs Palfrey wedi rhoi ei chaniatad i ni ddefnyddio'r ffilm ar gyfer ein gwefan.

Daeth Mrs Joanna Jones, Swyddog Addysg yr Amgueddfa Wlân, i gynnal prynhawn gyda ni am ei phrofiad o ymweld â Phatagonia ym mis Rhagfyr 2015. Cawsom weithdy celf i ddechrau a gwneud printiau dwylo tebyg i’r rhai yn Ogofau Cueva de las Manos, yn yr Ariannin. Dangosodd bwynt pwer o’i thaith a siaradodd am Lain Las, cartref Nel ym Mhatagonia, sydd wedi ei droi’n amgueddfa erbyn hyn. Hefyd, dangosodd luniau o sut mae pobl yn byw heddiw yn y Gaiman er mwyn i ni gael cymharu hynny gyda’n bywyd ni yng Nghymru .

Daeth Mrs Olive Campden, hanesydd lleol, i’r ysgol i siarad â ni am Nel a hanes y plwyf. Roedd hi’n ei hadnabod ac yn mynd i’r un capel â Nel. Siardodd am fywyd yn Nrefach Felindre pan ddaeth yn ôl yn 1901. Buom gyda Mrs Campden ar daith o amgylch y pentref i weld mannau ble fyddai’r hen siopau a busnesau wedi bod ac ymweld â Chapel Clos y Graig, capel Nel.

Ymwelydd arall a ddaeth i siarad gyda ni oedd Mr Eifion Davies, perthynas i Nel. Siaradodd am fywyd Nel yn Patagonia a’i phersonoliaeth. Dangosodd ei goeden deulu a lluniau o’r teulu ac egluro sut yr oedd yn perthyn i Nel. 

Derbyniom wahoddiad gan Gymdeithas Hanes ‘Tir a Môr’ Ffostrasol i gymryd rhan mewn noson gyhoeddus gyda Dr Elin Jones, i siarad am ein prosiectau hanes ar gyfer cystadleuaeth Menter y Dreftadaeth. Buom yn rhannu gwybodaeth am Nel Fach y Bwcs gyda’r gynulleidfa. 

Cynhaliom noson Patagonia ac Ocsiwn yn Neuadd y Ddraig Goch. Cawsom bryd bwyd Archentinaidd a bu disgyblion ar draws yr ysgol yn perfformio dawnsfeydd Archentinaidd a chanu caneuon am ymfudo i Batagonia. Codom £2057.01 i’r ysgol. 

Eleni, ar gyfer ein heisteddfod ysgol, buom yn perfformio darnau am Batagonia yn ein timoedd. Buom yn canu caneuon am y Wladfa ac adrodd darn James Culf, ‘Taith Anturus’ am ymfudo i Batagonia a enillodd gadair Eisteddfod yr Ysgol yn 2015.  

Buom yn llwyddianus i dderbyn nawdd o £1,500 i greu y cwilt am hanes Nel a’r Rhyfel Byd Cyntaf trwy Amgueddfa Wlân Cymru. Mae Nia Lewis, Artist Tecstiliau, wedi bod yn gweithio gyda ni ers mis Ionawr. Fe wnaeth Mr Eifion Davies, ddadorchuddio’r cwilt mewn prynhawn ar gyfer y rhieni a’r gymuned. Buom yn diddanu’r gynulleifa a chanu caneuon ac adrodd.

Ar Ebrill 15fed a’r 16eg, aeth y disgyblion sy’n trosglwyddo i Ysgol Bro Teifi ym mis Medi, ar daith i Iwerddon i weld llong Dunbrody sy’n debyg i’r Mimosa yn New Ross, sir Wexford. Gan fod llong y Dunbrody yn debyg i'r Mimosa, gallen ni gymharu amgylchiadau ar y llong yn 1865 i gyrraedd gwlad yr addewid gyda moethusrwydd llong y Stena Line yn mynd i Iwerddon a gallu gwylio ffilmiau a symud o amgylch y dec fel y dymunen. Buom yn ffodus o gael mynd i ystafell rheoli'r llong a chwrdd â'r Capten a'r Mêt 1af a gweld yr offer radar a digidol y defnyddient i hwylio'r llong. Daeth Mr Hedd Ladd Lewis, Pennaeth Hanes, Ysgol Dyffryn Teifi a thri disgybl y chweched gyda ni.

Yn dilyn ein hymweliadau a’n gwaith ymchwil, fe wnaethom gasglu’r tystiolaeth i greu gwefan, gan blant i blant, sy’n lliwgar ac yn rhwydd i’w defnyddio. Defnyddiom ein sgiliau digidol i greu tudalennau gwybodaeth yn ogystal â gemau a chwis cyn eu gosod ar ein gwefan. Buom yn gweithio gyda’n gilydd i gynllunio’r wefan i sicrhau ein bod yn cyflwyno gwybodaeth diddorol i adrodd hanes Nel i’r byd.

Rydym wedi rhannu ein wefan gyda phlant ysgolion yng Nghymru a Phatagonia. Rydym wedi anfon negeseuon at Ysgol yr Hendre yn Nhrelew sy’n dathlu deng mlynedd o fodolaeth eleni ac Ysgol newydd ddwyieithog - Ysgol y Cwm, sydd newydd agor yn Nhrevelin. Nid ydym wedi clywed gan Ysgol y Cwm. Eleni, rydym ni yn dathlu can mlwyddiant a hanner Ysgol Penboyr.

Mae Ysgol Yr Hendre wedi cysylltu gyda ni ac maent wedi bod yn astudio'n gwefan, sydd yn gyffrous iawn. Mae lluniau ohonynt ar y gwefan. Daeth Ana, un o Lywodraethwyr yr ysgol i ymweld â Ysgol Penboyr yn ddiweddar. Cawsom fore arbennig yn ei chwmni. Buodd y disgyblion yn perfformio eitemau Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd iddi yn ystod y cyd-addoli boreol cyn iddi ymweld â phob dosbarth wrth gael taith o amgylch yr ysgol. Rydym yn mynd i gadw cysylltiad gyda'r ysgol trwy gynnal sesiynau skypio er mwyn cymharu bywyd ym Mhatagonia gyda Cymru, fel y gwnaeth Nel pan ddaeth yn ôl i Gymru. Rydym wedi lan lwytho ffilm o daith o amgylch yr ysgol i ddisgyblion Ysgol yr Hendre gael gweld ein hysgol.

Rydym wedi buddsoddi mewn gorsaf radio ar gyfer darlledu ar y we i hyrwyddo gwaith yr ysgol yn y gymuned lleol ac yn ehangach. Rydym wedi creu tair rhaglen radio. Y cyntaf ar hanes yr ymfudo i Batagonia ar y Mimosa, yr ail ar hanes Nel ym Mhatagonia a’r un olaf ar ei hanes yn Drefach Felindre a’n taith i Iwerddon. Darlledwyd y rhaglenni ar www.cymru.fm. Mae’r rhaglenni ar gael i wrando eto ar wefan Cymru FM neu ar wefan yr ysgol.

Trwy’r prosiect trawscwricwlaidd hwn, rydym wedi dysgu llawer am fywyd gwraig arbennig a diddorol a oedd yn byw tafliad carreg o’r ysgol. Er ein bod yn astudio hanes Patagonia yn yr ysgol fel rhan o’r Cwricwlwm Cymreig, mae astudio hanesion diddorol am Nel wedi dod âr hanes yn fyw i ni. Bwriadwn yn y dyfodol agos ddatblygu ein sgiliau digidol ymhellach drwy ddefnyddio rhaglen newydd o’r enw ‘ibook author’ i greu e-lyfr ar gyfer ipads am hanes Nel Fach y Bwcs. Gobeithiwn gyhoeddi’r e-lyfr ar yr ‘app store’ i’w rannu gyda disgyblion Cymru, Patagonia a’r byd ehangach er mwyn cadw ei hanes yn fyw am genedlaethau i ddod.

 

 

William a Mary ar y We - Our Project Overview

Whsi Logo

 Menter y Dreftadaeth Gymreig 2015

Ysgol Penboyr

Enillwyr £1000

Whsi Logo

Testun ein prosiect yn nosbarth 4 eleni yw: 

'William a Mary a'r We- o'r llawysgrif i'r argraffwasg i'r bobl! Beibl i bawb o bobl y byd'.

 https://penboyr.j2bloggy.com/Tyfu-a-Ffynnu/

Dechreuad i’r gwaith oedd gweld drama un dyn ar Yr Esgob William Morgan ar Dachwedd 7fed, 2014. Yn ystod y sioe, cawsom ein cludo i Oes y Tuduriaid a’n cyflwyno i stori rhyfeddol William Morgan - o’i fagwraeth yn Wybrnant i’w ddyrchafiad yn Esgob Eglwys Gadeiriol Llanelwy. Daethom i ddeall pam fod y Beibl wedi’i gyfieithu i’r Gymraeg; sut aethpwyd ati i gwblhau’r gwaith; pa effaith a gafodd ar Gymry cyffredin yr oes, a’r waddol anhygoel - goroesiad yr iaith Gymraeg. 

Daeth Yr Esgob Wyn Evans ar ymweliad i Ysgol Penboyr ar 13eg o Dachwedd, 2014, fel rhan o’i daith tair mlynedd o amgylch Esgobaeth Tŷ Ddewi. Cynhaliom wasanaeth arbennig o ddiolchgarwch am y Beibl. Yn  ei araith, esboniodd Yr Esgob am bwysigrwydd Y Beibl Cymraeg i achub ein hiaith. Hefyd, siaradodd am ei wisgoedd arbennig ac i ble mae yn eu gwisgo. Yn ystod y gwasanaeth, clywodd yr Esgob berfformiad cyntaf ein cân wreiddiol arbennig i William Morgan a ysgrifenwyd gan Y Prifardd Ceri Wyn Jones a’r gerddoriaeth gan Mrs Organ, un o’n gweinyddesau. 

Ar Dachwedd 11eg, 2014 aeth blwyddyn 6 a’r arweinwyr digidol o flwyddyn 5, ar ymweliad i Dŷ Mawr, Wybrnant, cartref William Morgan, ger Betws y Coed, yng Ngogledd Cymru. Roedd Gerwyn, ein tywysydd yn anhygoel.Yn y prynhawn, aethom  i Ganolfan Mary Jones, yn y Bala. Ysgol Penboyr oedd yr ysgol gyntaf i ymweld â’r ganolfan newydd sbon. Er mwyn hyrwyddo ymweliadau gan ysgolion eraill i’r ganolfan, mae ein lluniau ar eu pamffledi a’u gwefan.

Yn dilyn ein hymweliad â Tŷ Mawr, bu’n arweinwyr digidol yn creu pwynt pwêr. Cyflwynwyd yr wybodaeth mewn cydaddoliad arbennig i’r gymuned pan fu’r Gymdeithas Feiblaidd yn yr ysgol yn dangos eu harddangosfa Beiblaidd a hanes Mary Jones. Dangosodd cynrychiolydd o’r Gymdeithas bwynt pwêr ar William Morgan a Mary Jones. Mae’r Gymdeithas Feiblaidd yn bwriadu defnyddio ein cân fel cefndir i’w harddangosfa a’u gwefan

Ar Chwefror 4ydd, 2015, bu blwyddyn 5 ar ymweliad â Gogledd Cymru i ddilyn taith bywyd Mary Jones, merch ddylanwadol iawn yn hanes Cymru. Teithiom i Fryn Crug i weld lle roedd hi’n byw pan briododd hyd ei marwolaeth. Gwelsom ei bedd ym mynwent Capel Bethlehem ym Mryn Crug. Teithiom i Lanfihangel-y-Pennant i weld Eglwys Sant Michael, ble bedyddiwyd Mary. Mewn arddangosfa yn yr Eglwys gwelsom frodwaith diddorol yn hongian ar y wal. Rydym wedi creu baner tebyg o waith ffeltio yn yr ysgol sydd tu allan i ddosbarth 4. Ar ôl gadael yr eglwys,aethom i weld  adfeilion cartref genedigol Mary Jones sef Ty’n y Ddol cyn cerdded ychydig o’i thaith i’r Bala. Ar ein ffordd i Ganolfan Mary Jones, aethom trwy Tal-y-Llyn, pentref  ble briododd Mary a Thomas. Yn y ganolfan, buom yn astudio’r byrddau gwybodaeth a defnyddio’r arddangosfeydd rhyngweithiol. Hefyd, buom yn ymweld  â Chapel Tegid, capel Thomas Charles, yn y Bala, lle buom yn canu yn y sedd fawr i gyfeiliant yr organ anferthol! Gwelsom lun anferth o Thomas Charles yn cyflwyno Beibl i Mary Jones. Rydym wedi creu llun mawr ein hunain i’w osod ar wal ein neuadd ysgol. Ysgrifennodd Megan erthygl i’n papur lleol ‘Y Garthen’ am ein hymweliad yn dilyn taith bywyd Mary Jones yn y Gogledd.

Yn dilyn ein hymweliadau a’n gwaith ymchwil, fe wnaethom gasglu’r tystiolaeth i greu gwefan, gan blant i blant, sy’n lliwgar ac yn rhwydd i’w defnyddio.  Defnyddiom raglen J2e5/J2Bloggy i gynllunio ein tudalennau cyn eu gosod ar ein gwefan. https://penboyr.j2bloggy.com/Tyfu-a-Ffynnu/

Buom yn gweithio gyda’n gilydd i benderfynu ar benawdau ein tudalennau cartref, pa fideos/lluniau i’w lan lwytho a chreu cwis rhyngweithiol hefyd. Rhannom wybodaeth am ein gwefan gyda Swyddogion y Sir, Penaethiaid ysgolion eraill. Rydym wedi cael ymateb gwych! Rydym wedi anfon pwynt pwêr Saseneg i’n hysgolion cyswllt yn yr India er mwyn iddynt hwy ddysgu am hanes Cymru.Rydym yn aros am eu hymateb I rannu gwybodaeth am eu crefydd hwy. Pan aeth ein harweinwyr digidol i Ysgol Nantagredig, buom yn rhannu arfer dda a dangos ein gwefan. Ar y ffordd nôl o Ysgol Nantgaredig, buom yn ymweld â Amgueddfa Caerfyrddin yn Abergwili i weld Beibl William Salesbury.

Fel Ysgol Eglwysig, rydym wedi bod yn creu cornel weddio/myfyrio newydd yn y bondo. Mae’r Cyngor Ysgol a’r Cyngor Eco wedi bod yn cynllunio’r ardal gyda’r staff. Penderfynom i gael yr artist Meinir Mathias, i greu murlun gyda ni o William Morgan, Griffith Jones, Madam Bevan, Thomas Charles a Mary Jones. Rydym wedi  archebu ffynnon ddŵr a phlanhigion i harddu’r gornel. Bwriadwn gynnal cyngerdd i agor yr ardal yn swyddogol ar Fehefin 3ydd a gwahodd y Llywodraethwyr, rhieni a’r gymuned i ymuno yn y dathliad.

Yn ddiweddar, rydym wedi buddsoddi mewn gorsaf radio newydd ar gyfer darlledu ar y we i hyrwyddo gwaith yr ysgol yn y gymuned lleol ac yn ehangach. Daeth Marc Griffiths, o Radio Cymru, i hyfforddi criw ohonom o’r dosbarth ar sut i greu rhaglen radio yn defnyddio ‘Audacity’.  Cafodd ein harweinwyr digidol gyfle arbennig i gyfweld yr Esgob Wyn Evans ar y ffôn cyn gadael gyda Dosbarth 3 a 4 ar ymweliad i’r Llyfrgell Genedlaethol ar ddydd Llun, 27ain o Ebrill i gyfweld Rhodri Morgan a gweld casgliad o Feiblau.  Rydym wedi creu rhaglen am ein profiad yn Aberystwyth ac yn cyfweld Yr Esgob Wyn.  Darlledwyd y rhaglen hon nos Iau, 7fed o Fai, 2015 ar www.cymru.fm am 7yh.Roedd hwn yn gyfle unigryw i ni fel ysgol yng Nghymru i fod yn rhan o blatfform cenedlaethol cyffrous. Mae’r rhaglen ar gael i wrando eto ar wefan Cymru FM neu ar wefan yr ysgol.  Gobeithiwn y bydd pob dosbarth yn cael cyfle i gynhyrchu rhaglenni  yn y dyfodol.

Trwy’r project trawscwricwlaidd hwn, rydym wedi dysgu am bwysigrwydd Beibl William Morgan i gadw’r iaith y Gymraeg yn fyw. Hebddo, ni fyddem yn siarad a darllen Cymraeg heddiw. Rydym fel ysgol yn bwriadu creu e-lyfrau am hanes William Morgan a Mary Jones yn fuan i’w cyhoeddi ar yr ‘app store’ i’w rhannu gyda disgyblion Cymru a’r byd ehangach ar y we er mwyn cadw eu hanes yn fyw am genedlaethau i ddod. 

Merched Beca

Screen Shot 2015 08 18 At 225208

Dechreuodd y prosiect gyda’r plant yn holi'r cwestiwn pam roedd canol y pentref yn cael ei adnabod fe! Sgwâr y Gât.  Ysbrydolodd thema Merched Bcca eisteddfod yr ysgol a phrosiect ysgol a gynhyrchodd furlun mawr a thrawiadol.  Gweithiodd y disgyblion gyda’r prifardd Ceri Wyn Jones.  Gwnaethpwyd ymchwil fanwl yn cynnwys ymweliadau â Sir Benfro, y Llyfrgell Genedlaethol a Sain Ffagan.   Newidiodd disgyblion iau eu tŷ bach twt yn dolldy. Codwyd arian ar ddefaid a cheffylau am fynd drwy'r glwyd a chasglodd y disgyblion dollau. Rhannwyd eu darganfyddiadau yn eang gyda’r gymuned leol a’u hysgol gymar yn India.  Ysbrydolodd eu gweithgareeldau gomisiynu pasiant.

Darllen! Darllen! Darllen!

Screen Shot 2015 08 18 At 222034

Roedd y disgyblion wedi ymchwilio i fywyd y clerigwr Cymreig ar arloeswr addysgol, y Parch. Griffith Jones, a anwyd yn eu plwyf, er mai â phlwyf Llanddowror y cysylltir ef gan amlaf. Roeddent wedi ymweld ag eglwys Llanddowror yn ogystal â'r amgueddfa a’r archifdy sirol, ac roeddent wedi casglu tystiolaeth am ei fywyd a'i waith. Maent wedi casglu ynghyd eu darganfyddiadau, ac wedi arwain gwasanaeth amdano yn eu heglwys leol. Gobeithiant rannu hyn ag ysgolion eraill.  At hyn, maent wedi paratoi llyfr amdano yn y gobaith y caiff ei gyhoeddi.

Gee Ceffyl Bach

Screen Shot 2015 08 18 At 224907

Prosiect Pontio Penboyr ac Ysgol DyfFryn Teifi

Screen Shot 2015 08 18 At 233110

Defnyddiwyd y prosiect hwn fel uned pontio i ddisgyblion ar fin trosglwyddo i ysgolDyffryn Teifi.  Y ffocws oedd hanes yr ardal leol.

Cerddodd y disgyblion o gwmpas a thynnu lluniau o'u pentref.  Ymchwiliwyd i'w orffennol gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau ac ymwelwyd ag Amgueddfa Wlan Cymru. Ysgrifennodd y disgyblion lyfryn am Drefach a’i ddylunio a chynorthwyo i gymhyrchu DVD gyda disgyblion Blwyddyn 10 o’r ysgol uwchradd. 

Cofio T. Llew Jones

Screen Shot 2015 08 18 At 225726

Roedd y project yn coffáu bywyd a gwaith un o hoff awguron plant Cymru. Defnyddioddy disgyblion amrywiaeth o adnoddau, yn cynnwys deunydd gwreiddiol fel llythyron affotograffau a gafwyd trwy law teulu’r awdur.  Dyfeisiwyd holiadur gan y disgyblion at anfon at aelod agos o'r teulu.

Ymwelwyd â safle golygfeydd o nofelau T LIew Jones, a chafwyd tystiolaerh am rai o'igymeriadau yn y fynwent.  Daeth prif gymeriad un o'i lyfau, Twm Siôn Cati, ar ‘ymweliad’ â’r ysgol hefyd, a gallodd y plant ei holi a chyflawni gweithgareddau cysylltiedig.Manteisiwyd ar wybodaeth y disgyblion am nofelau T Llew Jones pan aethant ati igynllunio a chreu mosaig er cof amdano.  Cafodd ei ddadorchuddio ger bron aelodau o'ideulu ac aelodau o'r gymuned.

Adroddwyd ar lawer o weithgareddau'r project gan y wasg leol. 

Llannau'r Filltir Sgwar

Screen Shot 2015 08 18 At 230832

Them’r project ysgol-gyfan hwn ocdd eglwysi plwyf lleol. Aethant ar ymweliadau safle iymchwilio i hanes dwy eglwys leol, sef Sant Barnabas, Felindre a Sant Llawddog, Penboyr.Ma’r gwahanol ddosbarthiadau yn yr ysgol wedi canolbwyntio ar wahanol elfennau fel astudiaeth o gerrig beddi cyn-1900 ym mynwent Sant Barnabas, hanes y ddau sant, arwyrddocâd gwahanol rannau or eglwys, hanes Griffith Jones Llanddowror, a chymharupriodasau yn y gorfFennol â rhai heddiw.

Cymerodd yr holl ysgol ran mewn trefnu ffug briodas a gwledd yn yr ysgol. Fel rhan o'rproject, buont yn edrych ar ffenestri gwydr lliw yn yr eglwysi, a buont yn gweithio gydag artist lleol, Mr Stan Williams, ar ddylunio ffenestr gwydr lliw ar gyfer yr ysgol.  Bu yntau’n rhedeg gweithdai gydar ysgol a'r gymuned, ac ar y 30ain o Ebrill 2009, cynhallwyd gwasanaeth arbennig yn yr ysgol gan yr Esgob Wyn Evans i ddadorchuddio a chysegru’r ffenestr. Drwy gyfrwng y project hwn mae’r plant wedi creu hanes trwy gynhyrchu ffenestrgwydr lliw newydd ar gyfer yr ysgol.

Enwau Caeau yn Ardal Drefach Felindre

 Screen Shot 2015 08 19 At 002118

Mae’r project hwn yn gyfraniad amhrisiadwy i Dreftadaeih Cymru. Wrth i ffermydd newidDwylo a diflannu o berchenogaeth teuluoedd sydd wedi eu ffermio ers cenedlaethau, mae natur ffermio yn newid. Collir yr enwau Cymraeg bendigedig ar y caeau hyn lle byddaitraddodiad llafar gynt wedi sicrhau eu bod yn cael eu trosglwyddo o’r naill genhedlaeth i’r lIall.  Ar y cyfan, fyddair enwau hyn byth yn cael eu cofnodi ar bapur ac eithrio ambell droyng ngwaith beirdd fel Waldo Williams, e.e. Waun Parc y Blawd.

Aeth disgyblion yr ysgol ati i ymchwilio a chofnodi enwau caeau wyth fferm ger yr ysgol,gan ddosbarthu’r enwau yn bedwar caregori:

1. defnydd amaethyddol y cae;

2. lleoliad y cae;

3. perchenogaeth y cae;

4. tirwedd y cae.  

Daeth un o'r ffermwyr, y bu ei deulu'n ffermiofferm neilltuol ers 1776, i’r ysgol i siarad am y fferm ac ynglŷn a ffermio dros y cenedlaethau, ac i drafod enwau’r caeau ar ei ffermydd.  Ymwelodd y disgyblion a’r ffermydd wedyn i weld y caeau, a nodi mor briodol, disgrifiadol a defnyddiol oedd yr enwau.

Ehangwyd geirfa’r disgyblion yn anferthol. Daethant i ddeall arwyddocâd geiriau fel odyn,efeil, eithin, crug, romen, gwair, gwenith, ac ati.  Bur disgyblion yn astudio offer fferm hefyd ac yn cymharu bywyd a gwaith ar ffermydd heddiw a bywyd ar ffermydd ar wahanol adegau yn y gorffennol.

Cafodd y plant afael ar fapiau or ffermydd a sgrifennu holl enwaur caeau ar y mapiau hynAfonir yr holl waith at y Llyfrgell Genedlaethol i’w gadw'n ddiogel yno.  Mae’r Llyfrgcll GenedJaethol wedi gofyn i'r ysgol gofnodi enwau caeau ffermydd eraill yn y cylch hefyd.